Arolwg
Croeso i Ddweud eich Dweud ar Welliannau Teithio Casnewydd Canolog
Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno'r ymgynghoriad hwn i wella'r profiad o deithio i Orsaf Reilffordd Casnewydd, Glan yr Afon a thrwy Hen Green.
Bydd y newidiadau yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar fysiau, cerdded a beicio yn y ddinas a byddant yn helpu i wneud Casnewydd yn lle mwy gwyrdd a mwy bywiog.
Bydd yr holiadur ar agor tan 6 Ebrill 2023.
Rhannwch eich barn drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei gwblhau.
Os byddai'n well gennych beidio â chwblhau ein harolwg, defnyddiwch un o'n hoffer digidol eraill, cyflwynwch eich ymateb i ni yn ysgrifenedig i Gwelliannau Teithio Casnewydd Canolog ,Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH. E-bostio ni yn engagement@tfw.wales neu fel arall, cymerwch ran yn un o'n gweithdai wyneb yn wyneb.
Bydd yr holl ymatebwyr arolwg cofrestredig hynny, dros 18 oed, yn cael eu cynnwys am ddim mewn cyfle i ennill gwobr Cerdyn Rheilffordd Teulu Blwyddyn TrC (tri sydd ar gael).
Sylwch: mae’n bosibl y bydd ymatebion yr arolwg ar gael i’r cyhoedd ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben. Fel arfer, bydd hyn ar ffurf adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a’i phrosesu’n briodol yn unol â gofynion deddfwriaeth preifatrwydd a diogelu data. Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth: Datganiad Preifatrwydd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)